Gweld cath fawr eto yn ardal Llangadog
Mae arbenigwr ar gathod mawr yn credu y dylai'r Llywodraeth gynnal adolygiad o'r modd mae'r awdurdodau yn ymchwilio i achosion tebyg i'r un yn Sir Gaerfyrddin yr wythnos yma. Daw'r alwad yma wrth i dystiolaeth ddod i'r amlwg bod y gath fawr laddodd ci yn ardal Llangadog ddydd Sul wedi cael ei weld unwaith eto.
Cafodd y gath ei weld gan yrrwr lori lefrith tua 0200 bore Mercher yn yr ardal.
Dros y blynyddoedd wrth gwrs mae 'na sawl adroddiad wedi bod ynglyn â chreaduriaid tebyg i gathod mawr yn crwydro ardlaoedd gwledig er enghraifft ym Mrechfa, Pontrhydfendigaid ac anialdir Bodmin.
Gwelwyd cath fawr yn ardal Norfolk hefyd Ar hyn o bryd wrth gwrs mae plismyn arfog parhau i archwilio tiroedd yn ardal Llangadog, Sir Caerfyrddin.
Ddydd Sul fe welodd ffermwr anifail tebyg i biwma yn lladd ei gi yno.
Cadarnhaodd Heddlu Dyfed Powys eu bod yn dal i chwilio'r ardal ac nad oes neb wedi gweld yr anifail ers ddydd Sul.
Yr Athro Alayne Street-Perrot, o Brifysgol Cymru Abertawe, ydy'r arbenigwraig mwyaf yng Nghymru ar gathod mawr.
Mae hi'n credu ei bod yn amser i wleidyddion gymryd sylw gyda'r ofnau'n cynyddu bod anifeiliaid peryglus yn magu yn fforestydd de Cymru.
Ymchwilaid
Yr ymosodiad yn Llangadog sydd wedi codi'r mater i'w wyneb unwaith eto ac mae'r Aelod yn y Cynulliad yn yr ardal, Rhodri Glyn Thomas, yn cytuno.
"Mae 'na nifer o enghreifftiau o bobol yn gweld y cathod mawr ac mae 'na nifer o dystiolaeth amgylcheddol erbyn hyn yn awgrymu bod 'na fwy nag un gath a hwyrach fwy nag un teulu yn bodoli yn fforestydd de Cymru.
"Mae Adam Price, yr AS, hefyd wedi bod yn galw am ymchwiliad ac felly fe fyddwn ni'n pwyso'n bellach i geisio sicrhau o ganlyniad i'r digwyddiad yma bod ymchwiliad gwirioneddol yn cael ei wneud i'r sefyllfa." Mae ffermwyr lleol yn pryderu am eu hanifeiliaid a'u teuluoedd.
Rhaid dilyn canllawiau'r heddlu nad oes modd saethu'r gath gan nad ydy'r gynnau arferol yn ddigon pwerus ac mae modd y gall yr anifail droi ar y saethwr.
Yn ôl Undeb yr FUW rhaid i'r anifail neu anifeiliaid gael eu dal gynted ag y bo modd yn fyw neu yn farw.
Mae tymor wyna yn agosáu ac mae ffermwyr yn pryderu am eu stoc.
Dywedodd yr heddlu y byddan nhw'n aros yn yr ardal am rai dyddiau eto i chwilio am y gath neu hyd yn oed y cathod.